Syrffio yn Nhyddewi, Sir Benfro
Milltir neu ddwy o Rhos y Cribed mae Traeth Porth Mawr (Whitesands Bay), traeth sy’n hawdd ei gyrraedd ac sy’n ffefryn gyda syrffwyr â thonnau cyson gweddol o faint i bawb sy’n hoff o’r gamp.
Yn fangre poblogaidd i syrffwyr, mae’r bae yn dal tonnau gweddol o faint – ambell waith hyd at ddeg troedfedd o uchder. Mae’r bae yn lleihau wrth i’r llanw ddod mewn, felly yr amser gorau i syrffio yw rhwng y llanw canolig a’r llanw uchel.
Ar ochr ogleddol y penrhyn ceir y tonnau mwyaf ond mae’r tonnau yn amrywio mewn maint ar hyd y traeth i alluogi syrffio da ar adegau gwahanol o’r llanw.
Antur TYF Tyddewi
Cartref Llywio’r arfordir, caiacio môr, syrffio a dringo, TYF yw’r cwmni anturiaeth carbon niwtral cyntaf yn y byd. Tywyswyr arbenigol. Hanner diwrnodau neu ddiwrnodau cyfan. Ar agor drwy’r flwyddyn.
Ysgol Syrffio Whitesands
Gwersi syrffio i bob oedran a phob gallu ar un o brif draethau syrffio Cymru – o fewn cyrraedd hawdd o Fythynod Rhos y Cribed ym Mhorthclais.
I archebu gwersi cysylltwch â:
Ma Simes Surf Hut, 28 High Street Tyddewi neu ar y traeth ei hun.
Ff: 01437 720433
www.masimes.co.uk/surfschool
Mae traethau Sir Benfro yn cynnwys:
- Llandudoch
- Parrog a Thraeth Mawr Trefdraeth
- Poppit
- Abereiddy
- Traeth Llyfn
- Abercastell
- Porthgain
- Porthmelgen
- Traeth Porth Mawr
- Porthsele
- Porth Lysgi
- Porthclais
- Caerfai
- Solfa
- Niwgwl
- Little Haven
- Nolton Haven
- Druidston
- Broad Haven
- Dale
- Traeth Marloes
- Martins Haven
- Bae East Angle
- Bae West Angle
- Bae Barafundle
- Freshwater East + West
- Lydstep Haven
- Manorbier
- Dinbych y Pysgod
- Saundersfoot
- Amroth
- Penalun
- Traeth Priordy
- Stackpole Quay
Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.