Tŷ Hir, Rhos y Cribed

Gyda golygfeydd godidog o harbwr bach Porthclais ar arfordir hynod brydferth gorllewin Cymru saif bythynod gwyliau Rhos y Cribed dafliad carreg o Dyddewi. Mae’r bwthyn nodedig, sydd newydd ei adnewyddu wedi ei leoli oddi mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac yma gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar moethus yn un o ardaloedd prydferthaf penrhyn Tyddewi.

Mae ffermdy a bythynod gwyliau Rhos y Cribed ar gyrion dinas hanesyddol Tyddewi wedi eu nodi o werth hanesyddol rhestredig Gradd ll. Gyda golygfeydd prydferth o harbwr Porthclais i’r De Orllewin ac Eglwys Gadeiriol hynafol Tyddewi i’r Gogledd Ddwyrain, mae ymwelwyr i Rhos y Cribed wrth galon y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Tŷ Hir, Rhos y Cribed – Bwthyn Gwyliau

Mae Tŷ Hir, Rhos y Cribed yn cynnig:

  • Lleoliad gwych, yn swatio ar ben un o gymoedd bach hyfryd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro gyda golygfeydd o Dyddewi ac allan i’r môr o harbwr Porthclais
  • Mae dwy ystafell wely ddwbl yn Nhŷ Hir sydd wedi ei gynllunio’n gain a’i ddodrefni’n ofalus i fod yn gartre i ffwrdd o gartre.
  • Yn ganolbwynt gwych i’r brif ystafell agored mae’r nenfwd cromennog a fframau derw a stof pren yn sicrhau wneiff  ymwelwyr mwynhau gwario amser yn y lolfa a’r cegin croesawgar a moethus.
  • Os mai coginio sy’n mynd â’ch bryd chi, byddwch chi’n siwr o werthfawrogi’r gegin fach a’i hadnoddu chwaethus.
  • Does ond rhaid camu allan o’r Tŷ Hir i grwydro Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Gallwch bysgota crancod o fur porthladd bach Porthclais neu efallai y byddwch yn ddigon anturus i fyned allan i’r môr ar gwch neu gaiac. Mae llwybr arfordir Sir Benfro yn gyrchfan delfrydol i gerddwyr, i wylio adar, i fotanegwyr ac i bawb sy’n dwli ar fyd natur.

I gofrestri i dderbyn cynigion arbennig, cliciwch yma 

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.