Cerdded
Mae Llwybr Arfordir Cenedlaethol Sir Benfro yn 186 o filltiroedd gyda golygfeydd arfordirol godidog o Landudoch i Amroth. I ddarganfod mwy am lwybr yr arfordir ewch i’r linc yma.
Gallwch hefyd ddarganfod mwy am deithiau cerdded yn Sir Benfro fan hyn:
www.walkingpembrokeshire.co.uk
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – www.nationaltrust.org.uk
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn diogelu tai hanesyddol, gerddi, melinau, arfordiroedd, fforestydd, coedwigoedd, traethau, tir fferm, corsydd, ynysoedd, olion archaeolegol, gwarchodfeydd natur, pentrefi a thafarndai. Maent wedyn yn sicrhau eu bod yn agored i bawb eu mwynhau. Cymrwch olwg ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud am Abereiddy, Porthgain neu Abercastell – i gyd o fewn ychydig filltiroedd i fythynod gwyliau Rhos y Cribed ym Mhorthclais, Tyddewi.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi nodi rhai teithiau cerdded byr yng Ngorllewin Cymru sy’n llai na thair milltir o hyd ond yn gyforiog o bethau i’w gweud a’u gweld.
O’r morloi yn Mhorth Martin, i’r adar gwyllt yn y Gwlypdiroedd ym Marloes neu’r Gwartheg Gwynion hynafol yn Ninefwr, fe fydd yr arfordir clogyrnog yn siwr o greu argraff. I ddarganfod mwy am y teithiau cerdded yma ewch i’r linc yma.
Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhyddewi Ff: 01437 720385
E: stdavids@nullnationaltrust.org.uk
www.nationaltrust.org.uk/wales
Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.