Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Ydi hunan-ddarpar yn golygu bod dillad gwely yn cael eu darparu?
Mae dillad gwely a thowelion i’r ystafelloedd ymolchi yn cael eu darparu ond gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio eich towelion eich hunain ar gyfer y traeth gan fod golchi towelion tywodlyd yn gallu niwedio ein peiriannau golchi.
Pa nodweddion sydd i arfordir Sir Benfro?
Nid ydych yn bell o’r môr unrhywle yn Sir Benfro, ac mae’r arfordir yn gymysgedd gwych o draethau euraidd, golygfeydd godidog a chlogwyni gwyllt. Dyma restr o rai o’r traethau lleol ar hyd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro:
- Llandudoch
- Parrog a Thraeth Mawr Trefdraeth
- Poppit
- Abereiddy
- Traeth Llyfn
- Abercastell
- Porthgain
- Porthmelgen
- Traeth Porth Mawr
- Porthsele
- Porth Lysgi
- Porthclais
- Caerfai
- Solfa
- Niwgwl
- Little Haven
- Nolton Haven
- Druidston
- Broad Haven
- Dale
- Traeth Marloes
- Martins Haven
- Bae East Angle
- Bae West Angle
- Bae Barafundle
- Freshwater East + West
- Lydstep Haven
- Manorbier
- Dinbych y Pysgod
- Saundersfoot
- Amroth
- Penalun
- Traeth Priordy
- Stackpole Quay
Pa mor bell yw Tyddewi o Rhos y Cribed?
Mae Tyddewi ychydig dan ddwy filltir o Rhos y Cribed – wrth gymryd Ffordd Porthclais heibio’r harbwr neu’r ffordd uwch sy’n arwain heibio’r Eglwys Gadeiriol a Llys yr Esgob i mewn i Dyddewi. Ar droed mae’n cymryd tua 20 munud.
Beth gallwn ni wneud yn Harbwr Porthclais?
Os nad ydych awydd mynd am dro ar hyd llwybr yr arfordir o ffermdy Rhos y Cribed gallwch hamddena wrth yr harbwr gyda phicnic efallai, ac mae nifer o deuluoedd yn mwynhau dal crancod o wal yr harbwr wrth wylio’r trigolion lleol yn gadael am y môr yn eu cychod. Gallwch wthio eich cwch neu’ch caiac eich hun i’r dwr o’r harbwr (yn unol â thâl cyfredol yr harbwr – yn 2013 y gost oedd £2 am bob caiac a £5 am gwch). Ac i’r rheiny ochonoch sy’n fwy mentrus, mae nifer yn mwynhau’r wefr o neidio o wal yr harbwr i mewn i’r môr yn ystod llanw uchel! Mae Twr y Felin (TYF) yn defnyddio Harbwr Porthlcais ar gyfer eu diwrnodau caiacio ac anturio.
Ydi Ffermdy Rhos y Cribed a’r Bwthyn yn hunangynhwysol?
Ydynt yn bendant! Nid oes unrhyw adnoddau yn cael eu rhannu rhwng y ddau le – ond os ydych am rannu a llogi’r ddau le ar gyfer grwp mawr neu wyliau teulu, mae drws cysylltiol ar y llawr gwaelod rhwng y ffermdy a’r bwthyn.
Oes archfarchnadoedd yn agos i Fythynod Gwyliau Rhos y Cribed?
Siop CK Stores yw’r archfarchnad yn Nhyddewi. Mae’n bosib hefyd i gael bwyd wedi ei gludo o Tesco sydd â siop yn Hwlffordd (tua 15 milltir i ffwrdd) – felly gallwch drefnu i gael archeb i gyrraedd Rhos y Cribed ar ddechrau eich gwyliau wrth archebu o flaen llaw.
A ydych yn caniatau anifeiliaid anwes?
Mae croeso cynnes i chi ddod a’ch ci heb gost ychwanegol. Ond er mwyn osgoi unrhyw anhawsterau wrth gyrraedd, mae angen i ni wybod o flaen llaw os bwriedir dod â chi neu unrhyw fath arall o anifail anwes e.e. cath, bochdew ayb. Ni chaniateir anifeiliaid ar y dodrefn nac yn yr ystafelloedd gwely. Perchnogion anifeiliaid anwes sydd yn gyfrifol am unrhyw waith glanhau ychwanegol, naill ai yn yr adeiladau neu’r gerddi. Ni chaniateir i anifeiliaid i ymgarthu ar y tir o gwbl. Bydd methiant i lanhau ar ôl anifail anwes yn golygu tâl ychwanegol. Mae dodrefn meddal a gwelyau ar gyfer pobl yn unig.
Dewch â flanced eich anifail i ddiogelu’r lloriau. Peidiwch a chaniatau i’ch anifail anwes i achosi unrhyw drafferth i ymwelwyr drws nesa. Ni chaniateir i anifeiliaid gael eu gadael heb neb arall yno – mae difrod yn aml yn cael ei achosi gan anifeiliaid mewn lle anghyfarwydd. Mae angen nodi pa fath o gi sydd gennych wrth archebu lle.
Cedwir hawl perchnogion i wrthod mathau arbennig o gwn.
Oes unrhyw gostau ‘ychwanegol?’
Nac oes. Mae gwres, trydan a dillad gwely yn cael eu cynnwys yn y gost archebu. Rydym yn darparu basged llawn o bren ar gyfer y stôf tân pren. Mae modd prynu pren ychwanegol yn yr orsaf betrol yn Nhyddewi. Nid ydym yn codi tâl i ddefnyddio’r wê.
A ydych yn anfon nodyn atfoffa i dalu’r pris llawn?
Os byddwch yn anghofio talu, cewch nodyn i’ch hatgoffa.
Beth am setiau teledu yn y Ffermdy a’r Bwthyn?
Mae setiau teledu ymhob un o’r ystafelloedd eistedd yn y Ffermdy a’r Bwthyn ac ymhob ystafell wely.
Beth am fynediad i’r wê?
Mae band-lydan ar gael ymhob un o’r pump adeilad yn Rhos y Cribed. Does dim tâl ychwanegol i ddefnyddio’r wê. Ond os gwelwch yn dda peidiwch â disgwyl i’r perchnogion i ddarparu cefnogaeth IT yn ystod eich arhosiad.
Sut fyddwn ni’n gwybod sut i gyrraedd y lleoliad?
Cyn i chi ymadael am eich gwyliau byddwn ni’n anfon cyfarwyddiadau manwl i chi yn esbonio sut i gyrraedd y lleoliad a phwy i gysylltu â nhw cyn i chi gyrraedd. Rydym hefyd yn darparu côd post os hoffech ddefnyddio cyfarwyddiadau sat-nav.
Gyda phwy byddwn ni’n cysylltu cyn cyrraedd?
Bydd manylion cysylltu ar y gwaith papur fydd yn cadarnhau’r archeb a gyda’r cyfarwyddiadau i’r lleoliad. Bydd angen i chi ffonio’r cyswllt penodedig ychydig ddyddiau cyn dechrau’r gwyliau i drafod trefniadau cyrraedd ag ati.
Faint o’r gloch gewn ni gyrraedd?
Cewch gyrraedd unrhywbryd ar ol 5.30pm ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau, a bydd angen i chi adael erbyn 09.00am ar y diwrnod gadael.
A yw hi’n bosib i ni newid enwau’r bobl sydd yn ein criw ar ôl i ni archebu’r gwyliau?
Ydi. Ond, fe fydd rhaid i ni gael gwybod, yn ysgrifenedig ac o flaen llaw, enwau’r holl westeion, eu hoedran, eu cenedligrwydd a’r dyddiadau byddant yn aros. Nid yw’n bosib i’r nifer sy’n aros fod dros y nifer mwyaf â hysbysebir ganddom, ac mae’n bosib y byddwn ni (y perchnogion) yn cyfyngu ar y nifer o enwau y gellid eu cyfnewid.
Oes angen i ni lanhau’r lle cyn gadael?
Oes, os gwelwch yn dda! Wrth gwrs ein bod ninnau yn glanhau Rhos y Cribed cyn croesawu ymwelwyr newydd, ond OS GWELWCH YN DDA gadewch y lle yn lân fel yr oedd wrth i chi gyrraedd yno, neu gallai fod yn anodd i ni ei lanhau yn drylwyr cyn yr ymwelwyr nesaf.
Oes peiriannu arian parod gerllaw?
Oes, yn Nhyddewi mae peiriannau arian parod yn Barclays, Lloyds TSB a siop CK Stores.
Beth os nad ydych yn hapus?
Os oes unrhywbeth o’i le, gadewch i ni y perchnogion neu’r gwarchodwr i wybod AR UNWAITH (rydym yn bobl ddigon agos-atoch). Mae’n bwysig i ni i sicrhau fod popeth yn iawn AR UNWAITH. Os cewch drafferthion, peidiwch â dioddef yn dawel neu benderfynnu ysgrifennu atom ar ôl i chi gyrraedd adre. Gadewch i ni wybod os oes unrhywbeth yn amharu ar eich gwyliau, ac fe ymdrechwn yn syth i wneud popeth yn iawn.
Ychydig o Wybodaeth Leol:
- Gwasanaethau bws – y Brodyr Richards i deithio rhwng Hwlffordd, Tyddewi ac Abergwaun.
www.gobybus.net Ff: 01239 613756 - Gwasanaeth bws yr arfordir – y Celtic Crusader a’r Puffin Shuttle yn cynnig gwasanaethau lleol o riniog Rhos y Cribed ar hyd penrhyn Tyddewi
www.pembrokeshiregreenways.co.uk Ff: 01437 764551 - Gwylwyr y Glannau – mewn argyfwng ar y clogwyni neu’r môr deialwch 999
- Deintydd – 34a Heol Newydd, Tyddewi Ff: 01437 721747
- Meddygfa – 36 Heol Newydd, Tyddewi Ff: 01437 720303
- Cwn ar Draethau – Dim cwn ar Draeth Porth Mawr (Whitesands) rhwng Mai y 1af a diwedd Medi. Dim cwn ar ran o draeth Niwgwl rhwng Mai y 1af a diwedd Medi.
- Yr Heddlu – Ff: 0845 3302000
- Swyddfa Bost – 13 Heol Newydd, Tyddewi Ff: 01437 720283
- Milfeddyg – 26a High Street, Tyddewi Ff: 01437 760111
- Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr – Oriel y Parc, Tyddewi
Ff: 01437 720392
info@nullorielyparc.co.uk
www.orielyparc.co.uk
Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws yr adeiladau hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae ffermdy a bwthyn Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i gael mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.
Harbwr Porthclais 600 medr, Llwybr arfordir 500 medr, Tyddewi 1.2m, Traeth Porth Mawr 2.2m