Rhos y Cribed

Bythynod Gwyliau Moethus yn Nhyddewi, Sir Benfro

Yn ôl y sôn, cafodd Dewi Sant ei fedyddio gan Esgob Munster, Sant Elvis yn y cwm sy’n arwain at harbwr Porthclais. Yn ystod y bedydd llifodd dwr o greigiau gerllaw gan dasgu i lygaid mynach dall oedd yn dal Dewi yn ei freichiau ac adferwyd ei olwg. Mae’r ffynnon hon – Ffynnon Dewi ar dir Rhos y Cribed ac yn agos i faes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth Harbwr Porthclais.

Am ganrifoedd bu harbwr naturiol Porthclais yn borthladd prysur i Dyddewi. Tan flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif byddai llongau masnach yn cyrraedd yn llawn glo, pren a charreg galch ac oddi yno allforiwyd cynnyrch fferm a brethyn.

Yn ogystal â thraethau euraidd gyda’r prydferthaf yn y byd mae arfordir dramatig Sir Benfro sy’n 186 o filltiroedd yn cynnig yr amodau gorau i syrffio, hwylio, pysgota neu i wneud dim ond ymlacio ac efallai chwilota yn mhyllau dwr y creigiau. Gyda chefnlen o glogwyni serth mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn cael eu swyno gan y golygfeydd godidog a’r amrywiol fyrdd o fywyd gwyllt – ar dir ac ar y môr.

Dafliad carreg o Rhos y Cribed mae dinas hanesyddol Tyddewi – dinas leiaf Prydain wedi ei henwi ar ôl nawddsant Cymru, Dewi Sant. Gyda phoblogaeth o 1,600 dynodwyd Tyddewi yn ddinas yn 1995 er bod gwreiddiau’r dre yn mynd yn ôl i’r 4edd ganrif pan oedd Dewi ei hun yn byw. Dynodwyd Tyddewi yn ardal o gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn 1972.

Yn enwog am ei Chadeirlan a’r Closydd hard sy’n hannu o’r 12fed ganrif un arall o atyniadau Tyddewi yw Llys yr Esgob. Dyma lle roedd ystafelloedd preifat yr esgob. Roedd y neuadd fawr, y siambr fwyaf trawiadol yn y llys, yn enwog am y gwleddoedd a gynhaliwyd yno. Mae’r llys yn dal i gyfleu cyfoeth a phŵer yr eglwys ganoloesol.

Mae Tyddewi yn gyrchfan hanfodol i dwristiaid i Sir Benfro ac mae Rhos y Cribed sydd wedi ei nodi o werth hanesyddol Gradd ll yn cynnig gwyliau hunan ddarpar moethus i ymwelwyr. Mae dinas Tyddewi yn le a gerir gan y trigolion lleol yn ogystal â thwristiaid. Mae’n llawn cymeriad, o’i hadeiladau hanesyddol i’r Sgwâr prysur canolog yn llawn siopau bychain a marchnad wythnosol. Mae croeso cynnes Cymreig yn y tafarndai, y tai bwyta, y caffis a’r orielau.

Dyma lefydd lle gallwch ddarganfod mwy am Dyddewi:

Canolfan Gwybodaeth

Oriel y Parc, Ty Ddewi
FF: 01437 720392
info@nullorielyparc.co.uk
www.orielyparc.co.uk

www.stdavids.co.uk

www.stdavidsinfo.org.uk

www.stdavidscathedral.org.uk

www.stdavids.gov.uk

www.visitpembrokeshire.com

Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

www.nt.pcnpa.org.uk

Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

www.pembrokeshirecoast.org.uk

www.walkingpembrokeshire.co.uk

www.nationaltrust.org.uk/visit/local-to-you/wales/

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.