Ffermdy Rhos y Cribed

traeth-cta

Gyda golygfeydd godidog o harbwr bach Porthclais ar arfordir hynod brydferth gorllewin Cymru saif bythynod gwyliau Rhos y Cribed dafliad carreg o Dyddewi. Mae’r ffermdy nodedig, sydd newydd ei adnewyddu, oddi mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac yma gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar moethus yn un o ardaloedd prydferthaf penrhyn Tyddewi.

Mae bwthyn a ffermdy gwyliau Rhos y Cribed ar gyrion dinas hanesyddol Tyddewi wedi eu nodi o werth hanesyddol rhestredig Gradd ll. Gyda golygfeydd prydferth o harbwr Porthclais i’r De Orllewin ac Eglwys Gadeiriol hynafol Tyddewi i’r Gogledd Ddwyrain, mae ymwelwyr i Rhos y Cribed wrth galon y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Adeiladwyd y ffermdy hynod yma yn y 18fed ganrif ar ymyl cwm yr afon Alun sy’n llifo i harbwr Porthclais ac mae’r enw Rhos y Cribed yn deillio o’i leoliad hardd. Yn adeilad sylweddol, mae’n bosib mai’r tŷ yma oedd cartref yr harbwr feistr pan oedd harbwr Porthclais yn llawer prysurach nag ydyw heddiw! Mae nifer o esiamplau eraill o ffermdai ‘bach-a-mawr’ yn ardal Tyddewi, y rhan fwyaf yn dyddio o’r 1860au. Credir mai’r gweision a’r morwynion fyddai’n byw yn y rhan ‘fach’.
<iframe width=”660″ height=”371″ src=”https://www.youtube.com/embed/PIsYty-TeEQ” frameborder=”0″ allowfullscreen></iframe>

Mae ffermdy Rhos y Cribed yn cynnig:

  • Lleoliad gwych, yn swatio ar ben un o gymoedd bach hyfryd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro gyda golygfeydd o Dyddewi ac allan i’r môr o harbwr Porthclais.
  • Yn chwaethus â digonedd o le mae’r ffermdy 5 ystafell wely ddwbl wedi ei gynllunio’n gain a’i ddodrefni’n ofalus i fod yn gartre i ffwrdd o gartre yn addas i bob oedran.
  • Mae’r lolfa llawn steil a’r ystafell fwyta yn rhedeg ar hyd y tŷ gyda golygfeydd dros y cwm tuag at ddinas Tyddewi. Gallwch swatio’n glud ar soffa gyffyrddus wrth y tân stôf pren tra bod yr ardal fwyta agored yn sicrhau nad yw cogydd (neu gogyddion) y tŷ ddim yn cael eu hamddifadu o’r cymdeithasu!
  • Bydd cogyddion brwdfrydig wrth eu bodd â’r gegin a’i hadnoddau gwych yng nghalon y ffermdy – ac mae’n le delfrydol i deulu a ffrindiau ymgynull i sgwrsio am weithgareddau’r dydd.
  • Mae’r cwtsh teledu yng nghefn y ffermdy yn ystafell lle gall plant o bob oed (ac oedolion) wylio teledu, chwarae gemau cyfrifiadurol neu ddewis o amrywiaeth o gemau, llyfrau a ffilmiau.
  • Does ond rhaid camu allan o ffermdy Rhos y Cribed i grwydro Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Gallwch bysgota crancod o fur porthladd bach Porthclais neu efallai y byddwch yn ddigon anturus i fyned allan i’r môr ar gwch neu gaiac. Mae llwybr arfordir Sir Benfro yn gyrchfan delfrydol i gerddwyr, i wylio adar, i fotanegwyr ac i bawb sy’n dwli ar fyd natur.

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Porthclais by artist Tony Kitchell