Atyniadau Sir Benfro

I fwynhau diwrnodau o hwyl i’r teulu mae nifer fawr o atyniadau yn agos i  fythynod Rhos y Cribed gan gynnwys Parc Deinosor Great Wedlock, Parc Campau Gwledig Heatherton, Sŵ Gwyllt Cymreig Anna Ryder Richardson, Parc Oakwood ar gyfer reidiau cynhyrfus a Folly Farm – ffefryn mawr gyda’r rhai bach.

Fferm Antur Clerkenhill

Wedi ei leoli yn Slebech rhwng Hwlffordd a Hendygwyn-ar-Daf, mae gan y fferm deuluol yma lwybr antur, gweithgareddau hwyl, ystafell de ac ardal bicnic.

Ff: 01437751227

Fly Wales

Wedi ei leoli ym maes awyr Hwlffordd rhwng Abergwaun ac Aberdaugleddau mae Fly Wales yn rhoi’r cyfle i chi ryfeddu at odidogrwydd Cymru o’r awyr. Ar agor 7  diwrnod yr wythnos.

Ff: 01437760822
www.flywales.co.uk

Parc Antur a Sŵ Folly Farm

Rhwng Cilgeti a Thredeml mae’r ganolfan anifeiliaid anwes yma hefyd yn cynnwys parc gwledig coedwig Folly, lle chwarae awyr agored, ffair a theatr ar gyfer plant bach.

Ff: 01834812731

Heatherton World of Activities & Tree Tops Adventure Trail

Cewch hwyl fel teulu yn Heatherton sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys lle chwarae antur dan dô i blant dan 4 a ‘zorbio corff’ a saethu colomennod clai laser i gadw’r oedolion yn ddiddig!

Bydd yr adrenalin yn llifo wrth i chi ddringo’n uchel i’r coed ar Lwybr Antur Tree Tops.

St Florence, Dinbych y Pysgod, SA70 8RJ
Ff: 01646 652000
www.heatherton.co.uk
www.treetopstrail.com

Helicharter Wales

Wedi ei leoli ychydig bellter yn unig i ffwrdd yn Hwlffordd rhwng Abergwaun ac Aberdaugleddau gallwch fwynhau cyffro arbennig wrth hedfan dros olygfeydd godidog Sir Benfro mewn hofrenydd Jet Ranger.

Ff: 0143777994

Makin’ Tracks

Os mai cyffro sy’n mynd â bryd eich teulu dyma’r lle i chi – cewch yrru tanciau trwy ddwr neu yrru beiciau quad Buzz neu wella eich sgiliau paintball.

Dinbych y Pysgod, SA70 6RB
Ff: 01834 845954
www.makintracks.uk.net

Parc Bywyd Gwyllt a Sŵ Gwyllt Cymreig Manor House

Wedi ei leoli rhwng Dinbych y Pysgod a Sageston, gallwch fwynhau bod ymhlith anifeiliad cyfeillgar a rhyfeddol o bob rhan o’r byd.

T: 01656 651201
www.annaswelshzoo.co.uk

Parc Oakwood

Speed, Megafobia, Drenched, Skull Rock, Vertigo neu Bounce – ydych chi’n ddigon dewr i fynd ar un o’r rhain? Wedi ei leoli rhwng Carew Cheriton a Robeston Wathen.

Ff: 01834861889
www.oakwoodthemepark.co.uk

Fferm Siocled Pemberton

Nefoedd i siocoholics! Adeiladau mewn fferm hanesyddol wedi eu trawsnewid i weithdai siocled lle gallwch wylio’r tȋm yn creu siocledau arbennig fydd yn sicr o dynnu dŵr o ddannedd.

Fferm Siocled Pemberton, Llanboidy, SA34 0EX
Ff: 01994 448800
www.welshchocolatefarm.com

Amgueddfa Geir Sir Benfro

Wedi ei leoli yn Keeston rhwng Hwlffordd a Niwgwl, mae’r amgueddfa fechan hon yn adrodd stori y car gyda 40 o gerbydau o hen geir i rai clasurol.

Ff: 01437710950

Cwn Defaid Sir Benfro

Arddangosfeydd Cwn Defaid. Rhyfeddwch wrth wylio cwn defaid yn cael eu hyfforddi ar gyfer gwaith fferm a threialon cwn defaid. Maent yn gallu trin defaid a hwyaid cystal a’i gilydd.

Mae cyrsiau hyfforddi cwn defaid yn cynnwys pob agwedd o hyfforddi ci defaid, o waith syml ar gyfer y fferm i hyfforddiant safon uwch ar gyfer treialon.

Fferm Tremynydd Fach, Tyddewi, SA62 6DB
Ff: 01437 721677
www.sheepdogtraining.co.uk

Acwariwm Silent World Dinbych y Pysgod a Chasgliad Ymlusgiaid

Rhwng Saundersfoot a Manorbŷr gallwch weld pob math o bysgod ac amffibiaid egsotig a darganfod mwy am y cynllun cenhedlu llwyddiannus.

T: 01834 8444498

Tŷ Masnachwr Tuduraidd (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Wedi ei leoli ger Dinbych y Pysgod, rhwng Penalun a Saundersfoot, dyma gyfle i chi ddarganfod sut fywyd oedd un y Tuduriaid. Mae’r gweithwyr wedi gwisgo mewn gwisg o’r cyfnod, ac mae’n bosib i’r plant hefyd i gael gwisgoedd arbennig er mwyn gallu deall yn well sut beth oedd bywyd yng nghyfnod y Tuduriaid.

Ff: 01834 842279

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.