Tyddewi
Mae Tyddewi yn leoliad prydferth ac unigryw ym mhen pella’ gorllewinol de Cymru. Dynodwyd Tyddewi yn ardal arbennig o gadwraeth gan Barc Cenedlaethol yr Arfordir yn 1972.
Yn ganolbwynt i Dyddewi a enwyd ar ôl nawddsant Cymru Dewi Sant mae’r Gadeirlan ysblenydd. Yn y ddinas fach hon hefyd mae cymuned ffyniannus ac mae’n ardal sy’n ffefryn gan ymwelwyr, artistiaid, pererinwyr a syrffwyr!
Canolfan Ymwelwyr
Oriel y Parc, Tyddewi
Ff: 01437 720392
info@nullorielyparc.co.uk
www.orielyparc.co.uk
www.stdavids.co.uk
www.stdavidscathedral.org.uk
Siopa a bwyta
Mae amrywiaeth helaeth o siopau, tai bwyta a chaffis yn Nhyddewi wedi eu lleoli yn bennaf o gwmpas yr hen groes yng nghanol y ddinas. O siopau dillad ac esgidiau bychain boutique i nifer o siopau crefftau lleol Cymreig i siopau sy’n gwerthu cyfarfpar syrffio – mae rhywbeth ar gyfer pawb. Mae marchnad leol dymhorol hefyd wrth yr hen groes bob dydd Iau o fis Ebrill hyd ddiwedd mis Medi.
Really Local Information:
- Banciau – Barclays, Lloyds TSB, Siopau CK – pob un â pheiriannau arian parod
- Gwasanaethau bws – y Brodyr Richards i deithio rhwng Hwlffordd, Tyddewi ac Abergwaun.
www.gobybus.net Ff: 01239613756 - Gwasanaeth bws yr arfordir – y Celtic Crusader a’r Puffin Shuttle yn cynnig gwasanaethau lleol o riniog Rhos y Cribed ar hyd penrhyn Tyddewi www.pembrokeshiregreenways.co.uk Ff: 01437 764551.
- Gwylwyr y Glannau – mewn argyfwng ar y clogwyni neu’r môr deialwch 999
- Deintydd – 34a Heol Newydd, Tyddewi Ff:01437 721747
- Meddygfa – 36 Heol Newydd, Tyddewi Ff:01437 720303
- Cwn ar Draethau – Dim cwn ar Draeth Porth Mawr (Whitesands) rhwng Mai y 1af a diwedd Medi. Dim cwn ar ran o draeth Niwgwl rhwng Mai y 1af a diwedd Medi.
- Heddlu – Ff: 0845 3302000
- Swyddfa Bost – 13 Heol Newydd, Tyddewi Ff:01437 720283
- Milfeddyg – 26a High Street, Tyddewi Ff:01437 760111
- Digwyddiadau Llys yr Esgob a’r Gadeirlan yn cynnwys datganiadau clasurol, cyngherddau a gŵyliau drama – Ff:01437 720517 ar gyfer Llys yr Esgob Ff:01437 720057 ar gyfer Gŵyl y Gadeirlan 2014.
- Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro nifer o weithgareddau a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn – ewch yma i gael y rhestr ddiweddara
- www.solvanews.co.uk
Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.