Y Bwthyn, Rhos y Cribed
Gyda golygfeydd godidog o harbwr bach Porthclais ar arfordir hynod brydferth gorllewin Cymru saif bythynod gwyliau Rhos y Cribed dafliad carreg o Dyddewi. Mae’r bwthyn nodedig, sydd newydd ei adnewyddu wedi ei leoli oddi mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac yma gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar moethus yn un o ardaloedd prydferthaf penrhyn Tyddewi.
Mae bwthyn a ffermdy gwyliau Rhos y Cribed ar gyrion dinas hanesyddol Tyddewi wedi eu nodi o werth hanesyddol rhestredig Gradd ll. Gyda golygfeydd prydferth o harbwr Porthclais i’r De Orllewin ac Eglwys Gadeiriol hynafol Tyddewi i’r Gogledd Ddwyrain, mae ymwelwyr i Rhos y Cribed wrth galon y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.
Adeiladwyd y ffermdy hynod yma yn y 18fed ganrif ar ymyl cwm yr afon Alun sy’n llifo i harbwr Porthclais ac mae’r enw Rhos y Cribed yn deillio o’i leoliad hardd. Yn adeilad sylweddol, mae’n bosib mai’r tŷ yma oedd cartref yr harbwr feistr pan oedd harbwr Porthclais yn llawer prysurach nag ydyw heddiw! Mae nifer o esiamplau eraill o ffermdai ‘bach-a-mawr’ yn ardal Tyddewi, y rhan fwyaf yn dyddio o’r 1860au. Credir mai’r gweision a’r morwynion fyddai’n byw yn y rhan ‘fach’ – sef y Bwthyn.
Mae Y Bwthyn, Rhos y Cribed yn cynnig:
- Lleoliad gwych, yn swatio ar ben un o gymoedd bach hyfryd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro gyda golygfeydd o Dyddewi ac allan i’r môr o harbwr Porthclais.
- Mae tair ystafell wely ddwbl yn y Bwthyn hyfryd yma sydd wedi ei gynllunio’n gain a’i ddodrefni’n ofalus i fod yn gartre i ffwrdd o gartre yn addas i bob oedran.
- Yn ganolbwynt gwych i’r llawr gwaelod agored mae simne hynafol arbennig gyda ‘meinc’ ei hun – lle eistedd ar ochr y lle tân, yr union le i gynhesu wrth y tân stof pren sydd yno erbyn hyn. Mae’r lolfa groesawgar a’r ardal fwyta ar flaen y bwthyn yn arwain i’r gegin fach glud.
- Os mai coginio sy’n mynd â’ch bryd chi, byddwch chi’n siwr o werthfawrogi’r gegin fach a’i hadnoddu chwaethus.
- O’r ddwy ddwy ystafell wely ddwbl ym mlaen y tŷ gallwch fwynhau golygfeydd sy’n ymestyn tuag at Dyddewi a harbwr Porthclais, ac yn y cefn mae ystafell wely dwbl wedi ei chynllunio’n arbennig.
- Mae’r cynllun chwaethus yn yr ystafell ymolchi deuluol a’r tŷ bach ar y llawr gwaelod yn sicrhau na fydd y Bwthyn yma yn cael ei gamgymryd am drigfan y gweision!
- Does ond rhaid camu allan o’r Bwthyn i grwydro Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Gallwch bysgota crancod o fur porthladd bach Porthclais neu efallai y byddwch yn ddigon anturus i fyned allan i’r môr ar gwch neu gaiac. Mae llwybr arfordir Sir Benfro yn gyrchfan delfrydol i gerddwyr, i wylio adar, i fotanegwyr ac i bawb sy’n dwli ar fyd natur.
I gofrestri i dderbyn cynigion arbennig, cliciwch yma
Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.
Os hoffech wybod mwy am ffermdy a bwthyn Rhos y Cribed , mae croeso i chwi e-bostio info@nullrhosycribed.com neu gallwch lenwi y ffurflen ymholiadau ar-lein.