Posts Tagged ‘Pembrokeshire coast’

Walking

Cerdded

Mae Llwybr Arfordir Cenedlaethol Sir Benfro yn 186 o filltiroedd gyda golygfeydd arfordirol godidog o Landudoch i Amroth. I ddarganfod mwy am lwybr yr arfordir ewch i’r linc yma.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am deithiau cerdded yn Sir Benfro fan hyn:
www.walkingpembrokeshire.co.uk

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaetholwww.nationaltrust.org.uk

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn diogelu tai hanesyddol, gerddi, melinau, arfordiroedd, fforestydd, coedwigoedd, traethau, tir fferm, corsydd, ynysoedd, olion archaeolegol, gwarchodfeydd natur, pentrefi a thafarndai. Maent wedyn yn sicrhau eu bod yn agored i bawb eu mwynhau. Cymrwch olwg ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud am Abereiddy, Porthgain neu Abercastell – i gyd o fewn ychydig filltiroedd i fythynod gwyliau Rhos y Cribed ym Mhorthclais, Tyddewi.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi nodi rhai teithiau cerdded byr yng Ngorllewin Cymru sy’n llai na thair milltir o hyd ond yn gyforiog o bethau i’w gweud a’u gweld.

O’r morloi yn Mhorth Martin, i’r adar gwyllt yn y Gwlypdiroedd ym Marloes neu’r Gwartheg Gwynion hynafol yn Ninefwr, fe fydd yr arfordir clogyrnog yn siwr o greu argraff. I ddarganfod mwy am y teithiau cerdded yma ewch i’r linc yma.

Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhyddewi Ff: 01437 720385
E: stdavids@nullnationaltrust.org.uk
www.nationaltrust.org.uk/wales

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Y Bwthyn, Rhos y Cribed

Y Bwthyn, Rhos y Cribed

traeth-cta

Gyda golygfeydd godidog o harbwr bach Porthclais ar arfordir hynod brydferth gorllewin Cymru saif bythynod gwyliau Rhos y Cribed dafliad carreg o Dyddewi. Mae’r bwthyn nodedig, sydd newydd ei adnewyddu wedi ei leoli oddi mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac yma gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar moethus yn un o ardaloedd prydferthaf penrhyn Tyddewi.

Mae bwthyn a ffermdy gwyliau Rhos y Cribed ar gyrion dinas hanesyddol Tyddewi wedi eu nodi o werth hanesyddol rhestredig Gradd ll. Gyda golygfeydd prydferth o harbwr Porthclais i’r De Orllewin ac Eglwys Gadeiriol hynafol Tyddewi i’r Gogledd Ddwyrain, mae ymwelwyr i Rhos y Cribed wrth galon y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Adeiladwyd y ffermdy hynod yma yn y 18fed ganrif ar ymyl cwm yr afon Alun sy’n llifo i harbwr Porthclais ac mae’r enw Rhos y Cribed yn deillio o’i leoliad hardd. Yn adeilad sylweddol, mae’n bosib mai’r tŷ yma oedd cartref yr harbwr feistr pan oedd harbwr Porthclais yn llawer prysurach nag ydyw heddiw! Mae nifer o esiamplau eraill o ffermdai ‘bach-a-mawr’ yn ardal Tyddewi, y rhan fwyaf yn dyddio o’r 1860au. Credir mai’r gweision a’r morwynion fyddai’n byw yn y rhan ‘fach’ – sef y Bwthyn.

Mae Y Bwthyn, Rhos y Cribed yn cynnig:

  • Lleoliad gwych, yn swatio ar ben un o gymoedd bach hyfryd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro gyda golygfeydd o Dyddewi ac allan i’r môr o harbwr Porthclais.
  • Mae tair ystafell wely ddwbl yn y Bwthyn hyfryd yma sydd wedi ei gynllunio’n gain a’i ddodrefni’n ofalus i fod yn gartre i ffwrdd o gartre yn addas i bob oedran.
  • Yn ganolbwynt gwych i’r llawr gwaelod agored mae simne hynafol arbennig gyda ‘meinc’ ei hun – lle eistedd ar ochr y lle tân, yr union le i gynhesu wrth y tân stof pren sydd yno erbyn hyn. Mae’r lolfa groesawgar a’r ardal fwyta ar flaen y bwthyn yn arwain i’r gegin fach glud.
  • Os mai coginio sy’n mynd â’ch bryd chi, byddwch chi’n siwr o werthfawrogi’r gegin fach a’i hadnoddu chwaethus.
  • O’r ddwy ddwy ystafell wely ddwbl ym mlaen y tŷ gallwch fwynhau golygfeydd sy’n ymestyn tuag at Dyddewi a harbwr Porthclais, ac yn y cefn mae ystafell wely dwbl wedi ei chynllunio’n arbennig.
  • Mae’r cynllun chwaethus yn yr ystafell ymolchi deuluol a’r tŷ bach ar y llawr gwaelod yn sicrhau na fydd y Bwthyn yma yn cael ei gamgymryd am drigfan y gweision!
  • Does ond rhaid camu allan o’r Bwthyn i grwydro Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Gallwch bysgota crancod o fur porthladd bach Porthclais neu efallai y byddwch yn ddigon anturus i fyned allan i’r môr ar gwch neu gaiac. Mae llwybr arfordir Sir Benfro yn gyrchfan delfrydol i gerddwyr, i wylio adar, i fotanegwyr ac i bawb sy’n dwli ar fyd natur.

I gofrestri i dderbyn cynigion arbennig, cliciwch yma 

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Os hoffech wybod mwy am ffermdy a bwthyn Rhos y Cribed , mae croeso i chwi e-bostio info@nullrhosycribed.com neu gallwch lenwi y ffurflen ymholiadau ar-lein.

Porthclais by artist Tony Kitchell

Ffermdy Rhos y Cribed

Ffermdy Rhos y Cribed

traeth-cta

Gyda golygfeydd godidog o harbwr bach Porthclais ar arfordir hynod brydferth gorllewin Cymru saif bythynod gwyliau Rhos y Cribed dafliad carreg o Dyddewi. Mae’r ffermdy nodedig, sydd newydd ei adnewyddu, oddi mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac yma gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar moethus yn un o ardaloedd prydferthaf penrhyn Tyddewi.

Mae bwthyn a ffermdy gwyliau Rhos y Cribed ar gyrion dinas hanesyddol Tyddewi wedi eu nodi o werth hanesyddol rhestredig Gradd ll. Gyda golygfeydd prydferth o harbwr Porthclais i’r De Orllewin ac Eglwys Gadeiriol hynafol Tyddewi i’r Gogledd Ddwyrain, mae ymwelwyr i Rhos y Cribed wrth galon y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Adeiladwyd y ffermdy hynod yma yn y 18fed ganrif ar ymyl cwm yr afon Alun sy’n llifo i harbwr Porthclais ac mae’r enw Rhos y Cribed yn deillio o’i leoliad hardd. Yn adeilad sylweddol, mae’n bosib mai’r tŷ yma oedd cartref yr harbwr feistr pan oedd harbwr Porthclais yn llawer prysurach nag ydyw heddiw! Mae nifer o esiamplau eraill o ffermdai ‘bach-a-mawr’ yn ardal Tyddewi, y rhan fwyaf yn dyddio o’r 1860au. Credir mai’r gweision a’r morwynion fyddai’n byw yn y rhan ‘fach’.
<iframe width=”660″ height=”371″ src=”https://www.youtube.com/embed/PIsYty-TeEQ” frameborder=”0″ allowfullscreen></iframe>

Mae ffermdy Rhos y Cribed yn cynnig:

  • Lleoliad gwych, yn swatio ar ben un o gymoedd bach hyfryd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro gyda golygfeydd o Dyddewi ac allan i’r môr o harbwr Porthclais.
  • Yn chwaethus â digonedd o le mae’r ffermdy 5 ystafell wely ddwbl wedi ei gynllunio’n gain a’i ddodrefni’n ofalus i fod yn gartre i ffwrdd o gartre yn addas i bob oedran.
  • Mae’r lolfa llawn steil a’r ystafell fwyta yn rhedeg ar hyd y tŷ gyda golygfeydd dros y cwm tuag at ddinas Tyddewi. Gallwch swatio’n glud ar soffa gyffyrddus wrth y tân stôf pren tra bod yr ardal fwyta agored yn sicrhau nad yw cogydd (neu gogyddion) y tŷ ddim yn cael eu hamddifadu o’r cymdeithasu!
  • Bydd cogyddion brwdfrydig wrth eu bodd â’r gegin a’i hadnoddau gwych yng nghalon y ffermdy – ac mae’n le delfrydol i deulu a ffrindiau ymgynull i sgwrsio am weithgareddau’r dydd.
  • Mae’r cwtsh teledu yng nghefn y ffermdy yn ystafell lle gall plant o bob oed (ac oedolion) wylio teledu, chwarae gemau cyfrifiadurol neu ddewis o amrywiaeth o gemau, llyfrau a ffilmiau.
  • Does ond rhaid camu allan o ffermdy Rhos y Cribed i grwydro Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Gallwch bysgota crancod o fur porthladd bach Porthclais neu efallai y byddwch yn ddigon anturus i fyned allan i’r môr ar gwch neu gaiac. Mae llwybr arfordir Sir Benfro yn gyrchfan delfrydol i gerddwyr, i wylio adar, i fotanegwyr ac i bawb sy’n dwli ar fyd natur.

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Porthclais by artist Tony Kitchell

Cysylltu

Cysylltwch

Am wybodaeth pellach am wyliau hunan-ddarpar yn Rhos y Cribed ar gyfer 2-28 person, cysylltwch â ni wrth lenwi’r ffurflen islaw:

Enw (angen)

Ebost (angen)

Rhif ffôn (angen)

Cyfeiriad

Oes ganddoch chi ddiddordeb yn
Ffermdy Rhos y CribedBwthyn Rhos y CribedY Ddau

Dyddiad cyrraedd (angen)

Dyddiad gadael (angen)

Cwestiynau a / neu Gofynion Arbennig

I gofrestri i dderbyn cynigion arbennig, cliciwch yma 

 

Hafan

Gyda golygfeydd godidog o harbwr bach Porthclais ar arfordir Sir Benfro mae bythynod gwyliau Rhos y Cribed dafliad carreg o Dyddewi ac yn cysgu o 2 – 28 person. Mae’r ffermdy nodedig, sydd newydd ei adnewyddu, oddi mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac yma gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar moethus yn un o ardaloedd prydferthaf penrhyn Tyddewi.

traeth-ctaMae bwthyn a ffermdy gwyliau Rhos y Cribed wedi eu nodi o werth hanesyddol Gradd ll. Gyda golygfeydd prydferth o harbwr Porthclais i’r De Orllewin ac Eglwys Gadeiriol hynafol Tyddewi i’r Gogledd Ddwyrain, mae ymwelwyr i Rhos y Cribed wrth galon y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gunning.  Mae’r 5 uned yn cynnig hyblygrwydd i ffitio o 2 i 28 person – yn ddibynnol ar y nifer yn eich teulu neu grwp o ffrindiau sydd am aros yn Sir Benfro.

Adeiladwyd y ffermdy hynod yma yn y 18fed ganrif ar ymyl cwm yr afon Alun sy’n llifo i harbwr Porthclais ac mae’r enw Rhos y Cribed yn deillio o’i leoliad hardd. Yn adeilad sylweddol saif oddi mewn i benrhyn godidog Tyddewi – un o’r mannau mwyaf gorllewinol yng Nghymru.

I gofrestri i dderbyn cynigion arbennig, cliciwch yma 

R’yn ni’n ffodus iawn i gael artist lleol Tony Kitchell fel ein artist preswyl yn Rhos y Cribed.  Gellir prynu a gweld mwy o waith Tony, yn ei oriel yn Nhyddewi (Studio 6) ac arlein http://studio6stdavids.com

Porthclais by artist Tony Kitchell, holiday farmhouse

Mae  mynedfeydd a llefydd parcio ar wahân i ffermdy Rhos y Cribed a’r Bwthyn cydiedig, ond maent yn ddelfrydol fel lleoliad i ffrindiau a theuluoedd i fwynhau gwyliau gyda’i gilydd. Maent hefyd yn gallu bod yn ddau leoliad gwbl breifat ar wahân. Yn y ffermdy a’r bwthyn cewch bopeth sydd eu angen i chi fwynhau gwyliau gwych a chofiadwy mewn cartre i ffwrdd o gartre.

Creuwyd y fideo isod yn Rhos y Cribed gan Quality Cottages ar gyfer ei ymgyrch Nadolig.

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Os hoffech wybod mwy am ein ffermdy a bythynnod yn Rhos y Cribed , mae croeso i chi e-bostio info@nullrhosycribed.com neu gallwch lenwi y ffurflen ymholiadau ar-lein.

Lleoliad

Lleoliad

rhos-y-cribed-map

traeth-ctaSaif Bythynod hunan arlwyo Rhos y Cribed yng nghalon Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ym mhen pella’ gorllewinol Cymru. Mae’r Ffermdy a’r Bwthyn sydd newydd eu hadnewyddu’n foethus a chariadus yn cynnig cartre-oddi-cartre chwaethus mewn 30 erw o dir.

Yn ôl y sôn, cafodd Dewi Sant ei fedyddio gan Esgob Munster, Sant Elvis yn y cwm sy’n arwain at harbwr Porthclais. Yn ystod y bedydd llifodd dwr o greigiau gerllaw gan dasgu i lygaid mynach dall oedd yn dal Dewi yn ei freichiau ac adferwyd ei olwg. Mae’r ffynnon hon – Ffynnon Dewi ar dir Rhos y Cribed yn agos i faes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth Harbwr Porthclais.
Am ganrifoedd bu harbwr naturiol Porthclais yn borthladd prysur i Dyddewi. Tan flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif byddai llongau masnach yn cyrraedd yn llawn glo, pren a charreg galch ac oddi yno allforiwyd cynnyrch fferm a brethyn.

Yn ogystal â thraethau euraidd gyda’r prydferthaf yn y byd mae arfordir dramatig Sir Benfro sy’n 186 o filltiroedd yn cynnig yr amodau gorau i syrffio, hwylio, pysgota neu i wneud dim ond ymlacio ac efallai chwilota yn mhyllau dwr y creigiau. Gyda chefnlen o glogwyni serth mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn cael eu swyno gan y golygfeydd godidog a’r amrywiol fyrdd o fywyd gwyllt – ar dir ac ar y môr.

Dafliad carreg o Rhos y Cribed mae dinas hanesyddol Tyddewi – dinas leiaf Prydain wedi ei henwi ar ôl nawddsant Cymru, Dewi Sant. Gyda phoblogaeth o 1,600 dynodwyd Tyddewi yn ddinas yn 1995 er bod gwreiddiau’r dre yn mynd yn ôl i’r 4edd ganrif pan roedd Dewi ei hun yn byw. Dynodwyd Tyddewi yn ardal o gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn 1972.

Yn enwog am ei Chadeirlan a’r Closydd hardd sy’n hannu o’r 12fed ganrif un arall o atyniadau Tyddewi yw Llys yr Esgob. Dyma lle roedd ystafelloedd preifat yr esgob. Roedd y neuadd fawr, y siambr fwyaf trawiadol yn y llys, yn enwog am y gwleddoedd a gynhaliwyd yno. Mae’r llys yn dal i gyfleu cyfoeth a phwer yr eglwys ganoloesol.

Mae Tyddewi yn gyrchfan hanfodol i dwristiaid i Sir Benfro ac mae Rhos y Cribed sydd wedi ei nodi o werth hanesyddol Gradd ll yn cynnig gwyliau hunan ddarpar moethus i ymwelwyr. Mae dinas Tyddewi yn le a gerir gan y trigolion lleol yn ogystal â thwristiaid. Mae’n llawn cymeriad, o’i hadeiladau hanesyddol i’r Sgwâr prysur canolog yn llawn siopau bychain a marchnad wythnosol. Mae croeso cynnes Cymreig yn y tafarndai, y tai bwyta, y caffis a’r orielau.

Dyma lefydd lle gallwch ddarganfod mwy am Dyddewi:

Canolfan Ymwelwyr
Oriel y Parc, Ty Ddewi
Ff: 01437 720392
info@nullorielyparc.co.uk
www.orielyparc.co.uk

a dyma ychydig o wybodaeth lleol:

Banciau – Barclays, Lloyds TSB, Siopau CK – pob un â pheiriannau arian parod

Gwasanaethau bws – y Brodyr Richards i deithio rhwng Hwlffordd, Tyddewi ac Abergwaun.
www.gobybus.net Ff: 01239 613756

Gwasanaeth bws yr arfordir – y Celtic Crusader a’r Puffin Shuttle yn cynnig gwasanaethau lleol o riniog Rhos y Cribed ar hyd penrhyn Tyddewi
www.pembrokeshiregreenways.co.uk ff: 01437 764551

Gwylwyr y Glannau – mewn argyfwng ar y clogwyni neu’r môr deialwch 999

Deintydd – 34a Heol Newydd, Tyddewi 01437 721747

Meddygfa – 36 Heol Newydd, Tyddewi 01437 720303

Cwn ar Draethau – Dim cwn ar Draeth Porth Mawr (Whitesands) rhwng Mai y 1af a diwedd Medi. Dim cwn ar ran o draeth Niwgwl rhwng Mai y 1af a diwedd Medi.

Yr Heddlu – 0845 3302000

Swyddfa Bost – 13 Heol Newydd, Tyddewi 01437 720283

Milfeddyg – 26a High Street, Tyddewi 01437 760111

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Os hoffech wybod mwy am ffermdy a bwthyn Rhos y Cribed , mae croeso i chwi e-bostio info@nullrhosycribed.com neu gallwch lenwi y ffurflen ymholiadau ar-lein.