Lleoliad
Saif Bythynod hunan arlwyo Rhos y Cribed yng nghalon Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ym mhen pella’ gorllewinol Cymru. Mae’r Ffermdy a’r Bwthyn sydd newydd eu hadnewyddu’n foethus a chariadus yn cynnig cartre-oddi-cartre chwaethus mewn 30 erw o dir.
Yn ôl y sôn, cafodd Dewi Sant ei fedyddio gan Esgob Munster, Sant Elvis yn y cwm sy’n arwain at harbwr Porthclais. Yn ystod y bedydd llifodd dwr o greigiau gerllaw gan dasgu i lygaid mynach dall oedd yn dal Dewi yn ei freichiau ac adferwyd ei olwg. Mae’r ffynnon hon – Ffynnon Dewi ar dir Rhos y Cribed yn agos i faes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth Harbwr Porthclais.
Am ganrifoedd bu harbwr naturiol Porthclais yn borthladd prysur i Dyddewi. Tan flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif byddai llongau masnach yn cyrraedd yn llawn glo, pren a charreg galch ac oddi yno allforiwyd cynnyrch fferm a brethyn.
Yn ogystal â thraethau euraidd gyda’r prydferthaf yn y byd mae arfordir dramatig Sir Benfro sy’n 186 o filltiroedd yn cynnig yr amodau gorau i syrffio, hwylio, pysgota neu i wneud dim ond ymlacio ac efallai chwilota yn mhyllau dwr y creigiau. Gyda chefnlen o glogwyni serth mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn cael eu swyno gan y golygfeydd godidog a’r amrywiol fyrdd o fywyd gwyllt – ar dir ac ar y môr.
Dafliad carreg o Rhos y Cribed mae dinas hanesyddol Tyddewi – dinas leiaf Prydain wedi ei henwi ar ôl nawddsant Cymru, Dewi Sant. Gyda phoblogaeth o 1,600 dynodwyd Tyddewi yn ddinas yn 1995 er bod gwreiddiau’r dre yn mynd yn ôl i’r 4edd ganrif pan roedd Dewi ei hun yn byw. Dynodwyd Tyddewi yn ardal o gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn 1972.
Yn enwog am ei Chadeirlan a’r Closydd hardd sy’n hannu o’r 12fed ganrif un arall o atyniadau Tyddewi yw Llys yr Esgob. Dyma lle roedd ystafelloedd preifat yr esgob. Roedd y neuadd fawr, y siambr fwyaf trawiadol yn y llys, yn enwog am y gwleddoedd a gynhaliwyd yno. Mae’r llys yn dal i gyfleu cyfoeth a phwer yr eglwys ganoloesol.
Mae Tyddewi yn gyrchfan hanfodol i dwristiaid i Sir Benfro ac mae Rhos y Cribed sydd wedi ei nodi o werth hanesyddol Gradd ll yn cynnig gwyliau hunan ddarpar moethus i ymwelwyr. Mae dinas Tyddewi yn le a gerir gan y trigolion lleol yn ogystal â thwristiaid. Mae’n llawn cymeriad, o’i hadeiladau hanesyddol i’r Sgwâr prysur canolog yn llawn siopau bychain a marchnad wythnosol. Mae croeso cynnes Cymreig yn y tafarndai, y tai bwyta, y caffis a’r orielau.
Dyma lefydd lle gallwch ddarganfod mwy am Dyddewi:
Canolfan Ymwelwyr
Oriel y Parc, Ty Ddewi
Ff: 01437 720392
info@nullorielyparc.co.uk
www.orielyparc.co.uk
a dyma ychydig o wybodaeth lleol:
Banciau – Barclays, Lloyds TSB, Siopau CK – pob un â pheiriannau arian parod
Gwasanaethau bws – y Brodyr Richards i deithio rhwng Hwlffordd, Tyddewi ac Abergwaun.
www.gobybus.net Ff: 01239 613756
Gwasanaeth bws yr arfordir – y Celtic Crusader a’r Puffin Shuttle yn cynnig gwasanaethau lleol o riniog Rhos y Cribed ar hyd penrhyn Tyddewi
www.pembrokeshiregreenways.co.uk ff: 01437 764551
Gwylwyr y Glannau – mewn argyfwng ar y clogwyni neu’r môr deialwch 999
Deintydd – 34a Heol Newydd, Tyddewi 01437 721747
Meddygfa – 36 Heol Newydd, Tyddewi 01437 720303
Cwn ar Draethau – Dim cwn ar Draeth Porth Mawr (Whitesands) rhwng Mai y 1af a diwedd Medi. Dim cwn ar ran o draeth Niwgwl rhwng Mai y 1af a diwedd Medi.
Yr Heddlu – 0845 3302000
Swyddfa Bost – 13 Heol Newydd, Tyddewi 01437 720283
Milfeddyg – 26a High Street, Tyddewi 01437 760111
Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.
Os hoffech wybod mwy am ffermdy a bwthyn Rhos y Cribed , mae croeso i chwi e-bostio info@nullrhosycribed.com neu gallwch lenwi y ffurflen ymholiadau ar-lein.