Golff yn Nhyddewi, Sir Benfro

Clwb Golff Dinas Tyddewi

Dyma’r clwb golff mwyaf gorllewinol yng Nghymru, ac mae’r cwrs 9 twll ac 18 ti ar agor drwy’r flwyddyn. Milltir yn unig tu allan i Dyddewi, gyda’r cwrs yn rhedeg ar hyd llwybr yr arfordir ac yn edrych dros Draeth Porth Mawr mae’r cwrs yma yn sicr â rhai o’r golygfeydd gorau yn Sir Benfro.

Ff: 07527004015
www.stdavidscitygolfclub.co.uk

Clwb Golff Hwlffordd

Yn agos i Barc Cenedlaethol Sir Benfro gyda golygfeydd gwych o Fryniau Preseli, mae Clwb Golff Hwlffordd yn cynnig sialens go iawn i golffwyr o bob safon. Yn hawdd i’w gyrraedd o’r A40, filltir i’r dwyrain o Hwlffordd, saif y cwrs mewn rhodfa hyfryd ac mae’n gwrs fydd yn profi gallu pob golffiwr.

Ff: 01437 768409
www.haverfordwestgolfclub.co.uk

Clwb Golff Dinbych y Pysgod

Y Clwb golff hynaf yng Nghymru yn cynnig profiad hanesyddol a chlasurol.

Ff: 01834 842978
www.tenbygolf.co.uk

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.