Atyniadau Sir Benfro
I fwynhau diwrnodau o hwyl i’r teulu mae nifer fawr o atyniadau yn agos i fythynod Rhos y Cribed gan gynnwys Parc Deinosor Great Wedlock, Parc Campau Gwledig Heatherton, Sŵ Gwyllt Cymreig Anna Ryder Richardson, Parc Oakwood ar gyfer reidiau cynhyrfus a Folly Farm – ffefryn mawr gyda’r rhai bach.
Fferm Antur Clerkenhill
Wedi ei leoli yn Slebech rhwng Hwlffordd a Hendygwyn-ar-Daf, mae gan y fferm deuluol yma lwybr antur, gweithgareddau hwyl, ystafell de ac ardal bicnic.
Ff: 01437751227
Fly Wales
Wedi ei leoli ym maes awyr Hwlffordd rhwng Abergwaun ac Aberdaugleddau mae Fly Wales yn rhoi’r cyfle i chi ryfeddu at odidogrwydd Cymru o’r awyr. Ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Ff: 01437760822
www.flywales.co.uk
Parc Antur a Sŵ Folly Farm
Rhwng Cilgeti a Thredeml mae’r ganolfan anifeiliaid anwes yma hefyd yn cynnwys parc gwledig coedwig Folly, lle chwarae awyr agored, ffair a theatr ar gyfer plant bach.
Ff: 01834812731
Heatherton World of Activities & Tree Tops Adventure Trail
Cewch hwyl fel teulu yn Heatherton sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys lle chwarae antur dan dô i blant dan 4 a ‘zorbio corff’ a saethu colomennod clai laser i gadw’r oedolion yn ddiddig!
Bydd yr adrenalin yn llifo wrth i chi ddringo’n uchel i’r coed ar Lwybr Antur Tree Tops.
St Florence, Dinbych y Pysgod, SA70 8RJ
Ff: 01646 652000
www.heatherton.co.uk
www.treetopstrail.com
Helicharter Wales
Wedi ei leoli ychydig bellter yn unig i ffwrdd yn Hwlffordd rhwng Abergwaun ac Aberdaugleddau gallwch fwynhau cyffro arbennig wrth hedfan dros olygfeydd godidog Sir Benfro mewn hofrenydd Jet Ranger.
Ff: 0143777994
Makin’ Tracks
Os mai cyffro sy’n mynd â bryd eich teulu dyma’r lle i chi – cewch yrru tanciau trwy ddwr neu yrru beiciau quad Buzz neu wella eich sgiliau paintball.
Dinbych y Pysgod, SA70 6RB
Ff: 01834 845954
www.makintracks.uk.net
Parc Bywyd Gwyllt a Sŵ Gwyllt Cymreig Manor House
Wedi ei leoli rhwng Dinbych y Pysgod a Sageston, gallwch fwynhau bod ymhlith anifeiliad cyfeillgar a rhyfeddol o bob rhan o’r byd.
T: 01656 651201
www.annaswelshzoo.co.uk
Parc Oakwood
Speed, Megafobia, Drenched, Skull Rock, Vertigo neu Bounce – ydych chi’n ddigon dewr i fynd ar un o’r rhain? Wedi ei leoli rhwng Carew Cheriton a Robeston Wathen.
Ff: 01834861889
www.oakwoodthemepark.co.uk
Fferm Siocled Pemberton
Nefoedd i siocoholics! Adeiladau mewn fferm hanesyddol wedi eu trawsnewid i weithdai siocled lle gallwch wylio’r tȋm yn creu siocledau arbennig fydd yn sicr o dynnu dŵr o ddannedd.
Fferm Siocled Pemberton, Llanboidy, SA34 0EX
Ff: 01994 448800
www.welshchocolatefarm.com
Amgueddfa Geir Sir Benfro
Wedi ei leoli yn Keeston rhwng Hwlffordd a Niwgwl, mae’r amgueddfa fechan hon yn adrodd stori y car gyda 40 o gerbydau o hen geir i rai clasurol.
Ff: 01437710950
Cwn Defaid Sir Benfro
Arddangosfeydd Cwn Defaid. Rhyfeddwch wrth wylio cwn defaid yn cael eu hyfforddi ar gyfer gwaith fferm a threialon cwn defaid. Maent yn gallu trin defaid a hwyaid cystal a’i gilydd.
Mae cyrsiau hyfforddi cwn defaid yn cynnwys pob agwedd o hyfforddi ci defaid, o waith syml ar gyfer y fferm i hyfforddiant safon uwch ar gyfer treialon.
Fferm Tremynydd Fach, Tyddewi, SA62 6DB
Ff: 01437 721677
www.sheepdogtraining.co.uk
Acwariwm Silent World Dinbych y Pysgod a Chasgliad Ymlusgiaid
Rhwng Saundersfoot a Manorbŷr gallwch weld pob math o bysgod ac amffibiaid egsotig a darganfod mwy am y cynllun cenhedlu llwyddiannus.
T: 01834 8444498
Tŷ Masnachwr Tuduraidd (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Wedi ei leoli ger Dinbych y Pysgod, rhwng Penalun a Saundersfoot, dyma gyfle i chi ddarganfod sut fywyd oedd un y Tuduriaid. Mae’r gweithwyr wedi gwisgo mewn gwisg o’r cyfnod, ac mae’n bosib i’r plant hefyd i gael gwisgoedd arbennig er mwyn gallu deall yn well sut beth oedd bywyd yng nghyfnod y Tuduriaid.
Ff: 01834 842279
Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.