Os nad ydych awydd mynd am dro ar hyd llwybr yr arfordir o ffermdy Rhos y Cribed gallwch hamddena wrth yr harbwr gyda phicnic efallai, ac mae nifer o deuluoedd yn mwynhau dal crancod o wal yr harbwr wrth wylio’r trigolion lleol yn gadael am y môr yn eu cychod. Gallwch wthio eich cwch neu’ch caiac eich hun i’r dwr o’r harbwr (yn unol â thâl cyfredol yr harbwr – yn 2013 y gost oedd £2 am bob caiac a £5 am gwch). Ac i’r rheiny ochonoch sy’n fwy mentrus, mae nifer yn mwynhau’r wefr o neidio o wal yr harbwr i mewn i’r môr yn ystod llanw uchel! Mae Twr y Felin (TYF) yn defnyddio Harbwr Porthlcais ar gyfer eu diwrnodau caiacio ac anturio.