Gyda golygfeydd godidog o harbwr bach Porthclais ar arfordir Sir Benfro mae bythynod gwyliau Rhos y Cribed dafliad carreg o Dyddewi ac yn cysgu o 2 – 28 person. Mae’r ffermdy nodedig, sydd newydd ei adnewyddu, oddi mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac yma gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar moethus yn un o ardaloedd prydferthaf penrhyn Tyddewi.

traeth-ctaMae bwthyn a ffermdy gwyliau Rhos y Cribed wedi eu nodi o werth hanesyddol Gradd ll. Gyda golygfeydd prydferth o harbwr Porthclais i’r De Orllewin ac Eglwys Gadeiriol hynafol Tyddewi i’r Gogledd Ddwyrain, mae ymwelwyr i Rhos y Cribed wrth galon y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gunning.  Mae’r 5 uned yn cynnig hyblygrwydd i ffitio o 2 i 28 person – yn ddibynnol ar y nifer yn eich teulu neu grwp o ffrindiau sydd am aros yn Sir Benfro.

Adeiladwyd y ffermdy hynod yma yn y 18fed ganrif ar ymyl cwm yr afon Alun sy’n llifo i harbwr Porthclais ac mae’r enw Rhos y Cribed yn deillio o’i leoliad hardd. Yn adeilad sylweddol saif oddi mewn i benrhyn godidog Tyddewi – un o’r mannau mwyaf gorllewinol yng Nghymru.

I gofrestri i dderbyn cynigion arbennig, cliciwch yma 

R’yn ni’n ffodus iawn i gael artist lleol Tony Kitchell fel ein artist preswyl yn Rhos y Cribed.  Gellir prynu a gweld mwy o waith Tony, yn ei oriel yn Nhyddewi (Studio 6) ac arlein http://studio6stdavids.com

Porthclais by artist Tony Kitchell, holiday farmhouse

Mae  mynedfeydd a llefydd parcio ar wahân i ffermdy Rhos y Cribed a’r Bwthyn cydiedig, ond maent yn ddelfrydol fel lleoliad i ffrindiau a theuluoedd i fwynhau gwyliau gyda’i gilydd. Maent hefyd yn gallu bod yn ddau leoliad gwbl breifat ar wahân. Yn y ffermdy a’r bwthyn cewch bopeth sydd eu angen i chi fwynhau gwyliau gwych a chofiadwy mewn cartre i ffwrdd o gartre.

Creuwyd y fideo isod yn Rhos y Cribed gan Quality Cottages ar gyfer ei ymgyrch Nadolig.

Arfordir dramatig, traethau â thywod euraidd, eglwys gadeiriol hanesyddol a bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan ar stepen drws y ffermdy a’r bwthyn hunan-ddarpar hyfryd yma yn Nhyddewi. Mae Rhos y Cribed yn Sir Benfro yn le delfrydol i aros i allu mwynhau y gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Os hoffech wybod mwy am ein ffermdy a bythynnod yn Rhos y Cribed , mae croeso i chi e-bostio info@nullrhosycribed.com neu gallwch lenwi y ffurflen ymholiadau ar-lein.